Mynydda

A ydych erioed eisiau mentro yn y gamp o ddringo neu cwblhau sialens 14 Copa Cymru? Wel beth sy’n eich stopio? Yr ydym yn cynnig pob math o weithgareddau mynydda o gerdded, i gampio gwyllt dros nos, i ddringo. Fe allwn edrych ar ôl unrhyw faint o grŵp. Mae dringo craig fach yn cychwyn o £40 y person os oes o leiaf 4 yn y grŵp ac mae’r sesiwn yn rhedeg am tua 4 awr. Am ddringo craig fawr, mae’r pris yn cychwyn am £80 y person pan fydd 2 berson a disgwylir i’r sesiwn hon gymeryd o leiaf 6 – 8 awr. Mae defnydd o offer diogelwch yn gynwysiedig yn y prisiau uchod ac mae pob hyfforddwr yn dal cymwysterau cenedlaethol. Mae ein dyddiau cerdded mynyddoedd poblogaidd yn cychwyn o £35 y person os oes o leiaf 4 yn y grwp. Mae’r dyddiau hyn yn cael eu rhedeg trwy’r flwyddyn i gyd. Am gamp eithriadol, beth am ystyriad y sialens o gwblhau 14 copa Cymru, campio gwyllt neu hyd yn oed ein cwrsus syrfeifal? Cysylltwch a ni i drafod eich anghenion.

Page in widget::No Page id set.
Verified by MonsterInsights