Canwio

Dysgwch sut mae padlo hen grefft yr Indiaid Cochion. Yr ydym yn cynning sesiynau sgiliau cychwynnol ar sut i badlo’r canw. Bydd y sesiwn yn rhedeg am tua 4 awr. Mae’r pris yn £40 bob person am grŵp o 4 neu fwy (mi all unrhyw maint grŵp gael ei ystyried). Wedi dysgu’r sgiliau cychwynnol, gellir datblygu drwy gynnig sesiynau ar afonydd lle cewch gyfle i arbrofi’r sgiliau ar ddŵr gwyllt!!! Unwaith eto, mae’r sesiynau hyn tua 4 awr ac yr un pris â’r uchod. Byddwch yn barod i wlychu!

Yn ychwanegol, yr ydym yn cynnig tripiau afon 2/3 diwrnod, yn campio allan o dan y sêr. Mae pris y tripiau hun yn cychwyn o £240 y diwrnod am grŵp o 4. Os yw’r grŵp yn fwy, yna cysylltwch â ni i drafod.

Mae’r gweithgareddau canwio yn cael eu rhedeg gan hyfforddwyr sydd yn dal y cymwysterau cenedlaethol, gyda’r pwyslais o gael HWYL! Mi fydd offer diogelwch yn cael eu gynnig yn y pris.

Page in widget::No Page id set.
Verified by MonsterInsights