Arfordiro
Am weithgaredd adrenalin a hwyl, does dim curo Arfordiro. Mi fyddwch o dan arweinwyr profiadol yn cael y cyfle i neidio i’r môr, dringo dros greigiau ein harfordir ac archwilio ei hogofau. Mi fyddwch yn gwisgo offer diogelwch y cwmni wrth gymryd rhan. Mae’r sesiwn yn rhedeg o 1-3 awr, dibynnu ar faint a phrofiad y grŵp. Am grŵp o 4 neu mwy, y pris yw £40 y person.
Hefyd ar gael
- Caiacio Môr
- Gweithgareddau adeiladu Tîm
- Cerdded tir isel
- Dyddiau Corfforedig